Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
QW 25
Bil Cymwysterau Cymru
Tystiolaeth gan : Undeb Cenedlaethol Athrawon (UCAC)
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Oes. Mae UCAC yn croesawu Bil sydd yn creu corff annibynnol ar gyfer rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru a symud y rôl o ddwylo Llywodraeth Cymru. Rydym wedi hir ddadlau ei fod yn anaddas i Lywodraeth Cymru (neu unrhyw Lywodraeth), sydd yn gosod polisi addysg a chymwysterau, fod yn rheoleiddio cymwysterau oherwydd y perygl amlwg o wrthdaro buddiannau ac o ddylanwad negyddol cystadleuaeth wleidyddol fewnol a thraws-ffiniol ar hygrededd y gyfundrefn.
Mae angen sicrhau bod y corff yn annibynnol o Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, er yn derbyn cylch gwaith ganddi. Rydym o’r farn bod corff o’r fath yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cymwysterau â hygrededd a bod ffydd gan ymarferwyr, rhanddeiliaid, a phobl Cymru yn y system rheoleiddio.
Mae'n bwysig cael Bil i osod statws cyfreithiol i'r corff ac i amlinellu'n gadarn materion o bwys a'u gosod ar sail statudol.
|
|
Os ydych yn credu bod angen y Bil, beth yw’r prif faterion y mae angen ymdrin â nhw? |
|
Sicrhau: · cyfundrefn cymwysterau o safon uchel gyda chymwysterau amrywiol ar gyfer darparu cyfleoedd addas i ddysgwyr yng Nghymru · bod hygrededd i gymwysterau o fewn Cymru ac yn rhyngwladol · hygludedd cymwysterau o fewn Cymru ac yn rhyngwladol · bod y system gymwysterau yn ateb gofynion Cymru, e.e. wrth ddethol yr arlwy o gymwysterau i'w cymeradwyo, y rhoddir ystyriaeth i'r farchnad lafur yng Nghymru, anghenion ymchwil Cymru yn y sector addysg uwch, materion diwylliannol ac ieithyddol megis pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle · bod Cymwysterau Cymru ei hun yn gorff dwyieithog a'i bod yn sicrhau bod y gyfundrefn yn ddwyieithog gyda digon o adnoddau Cymraeg yn cael eu comisiynu i gefnogi cymwysterau'r un fath ( ac yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd) ac adnoddau cyfrwng Saesneg · nad yw dysgwyr presennol yn cael eu hanfanteisio (neu'n teimlo'u bod yn cael eu hanfanteisio) oherwydd sefydlu'r corff newydd neu yn ystod cyfnod trosiannol · bod trefniadau clir i gyfathrebu gyda rhanddeiliad a bod cymwysterau Cymru'n sicrhau bod athrawon a darlithwyr yn cael mynediad at ddatblygiad proffesiynol o safon uchel er mwyn diwallu anghenion eu disgyblion wrth baratoi ar gyfer cymwysterau allanol
|
|
Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn) |
|
· cyfundrefn cymwysterau o safon uchel gyda chymwysterau amrywiol ar gyfer darparu cyfleoedd addas i ddysgwyr yng Nghymru · bod hygrededd i gymwysterau o fewn Cymru ac yn rhyngwladol a bod hygludedd i gymwysterau o fewn Cymru ac yn rhyngwladol · Mae angen sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae ystod eang o bynciau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg gyda nifer cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf o gyrsiau galwedigaethol ychwanegol yn dilyn cyflwyno'r Mesur Dysgu a Sgiliau, er bod rhai darparwyr yn araf i ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fod yn gwbl ganolog i unrhyw gyfundrefn newydd. Mae lle i wella eto ar ddeunyddiau Cymraeg a phrydlondeb eu cyhoeddi. Credwn fod angen cynllunio i sicrhau bod Cymwysterau Cymru'n gorff dwyieithog sy'n gweithredu'n ddwyieithog ac sydd yn cynnig gwasanaeth dwyieithog · bod trefniadau clir i gyfathrebu gyda rhanddeiliad a bod cymwysterau Cymru'n sicrhau bod athrawon a darlithwyr yn cael mynediad at ddatblygiad proffesiynol o safon uchel er mwyn diwallu anghenion eu disgyblion wrth baratoi ar gyfer cymwysterau allanol
Mae'n holl bwysig sicrhau'r materion hyn er mwyn gwarantu safonau a chyfleoedd pwysig i ddysgwyr ym mhob sector Nghymru.
|
§ 1 |
· nad yw dysgwyr presennol yn cael eu hanfanteisio (neu'n teimlo'u bod yn cael eu hanfanteisio) oherwydd sefydlu'r corff newydd neu yn ystod cyfnod trosiannol
|
§ 2 |
§ 3 -Sicrhau annibyniaeth Cymwysterau Cymru. Mae angen sicrhau hygrededd i rôl y Rheoleiddiwr ac yn sgil hyn i gymwysterau yng Nghymru. Mae hyn yn holl bwysig ond bydd y Bil yn mynd i'r afael â'r mater o annibyniaeth a dyma'r unig reswm am ei ddiffinio fel problem fach. |
§ |
4 |
§ |
Cwestiwn 2 - A ydych yn credu bod y Bil, fel y'i drafftiwyd, yn cyflawni'r amcanion a nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol? |
|
Ydy. Mae’r Bil, ar y cyfan, yn cyflawni'r amcanion a nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol, e.e. materion sefydlu'r corff fel corff annibynnol, a’r angen i ddiwallu anghenion y dysgwr. Credwn ei fod yn holl bwysig ein bod yn sicrhau corff annibynnol, ac mae’r amlinelliad a welwn o ran y berthynas rhwng y Llywodraeth, y Cynulliad a’r corff yn cynnig model all weithio yn hyn o beth.
Ar y llaw arall, rydym yn gryf o’r farn fod angen sicrhau bod Cymwysterau Cymru yn rhoi'r sylw dyledus ac angenrheidiol i ‘hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gan gynnwys drwy argaeledd trefniadau asesu sy’n darparu ar gyfer asesu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac argaeledd cymwysterau sydd fel arall yn hyrwyddo neu’n hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg;’ fel y’i gwelir yn Rhan 2 - 3(2)(b). Sonnir yn y Bil am ddymunoldeb (desirability) gwneud hyn. Rhaid pwysleisio na all hyn fod yn ‘ddymunol’ yn unig; mae'n angenrheidiol o ran i) corff fydd yn gwasanaethu Cymru ac o ran ii) cymwysterau blaenoriaethol, cenedlaethol. Ni all y system bresennol sy’n anfanteisio darparwyr, addysgwyr ac ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg mewn rhai cymwysterau, yn enwedig y rhai galwedigaethol, barhau. Mae angen, felly cryfhau'r elfen yma'r o'r Bil fel bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn elfen fwy creiddiol ar wyneb y Bil.
Rydym yn cydnabod, yn ogystal, bod posibl i gorff newydd o’r fath, drwy reoleiddio cymwysterau i Gymru yn unig, anfanteisio myfyrwyr yng Nghymru drwy beidio â sicrhau hyder a chymwysterau cyfatebol i wledydd eraill. Er hyn, rydym yn ffyddiog fod y Bil yn rhoi’r cyfle i’r corff ddatblygu cymwysterau addas, heriol a chyfatebol.
Mae ymgais yn y Bil i ddiogelu myfyrwyr, hefyd, yn ystod y cyfnod trosiannol.
Mae'r memorandwm yn esbonio'r bwriad i rannu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymwysterau Cymru i ddau ran - sef y bwriad o greu corff rheoleiddio a gynhwysir yn y Bil a'r bwriad yn y dyfodol i ddatblygu pwerau dyfarnu. Nid yw hyn yn rhan o'r Bil, wrth gwrs, ac mae UCAC yn achub y cyfle i fynegi ein bod dal yn bryderus ynghylch y bwriad i drosglwyddo pwerau dyfarnu ymhen amser. Nid ydym yn ei gweld hi'n addas i gyfuno pwerau dyfarnu gyda'r cyfrifoldeb o sicrhau ansawdd. Mae'r cyfuniad o gyfrifoldebau 'rheoleiddio + dyfarnu' yr un mor beryglus, ac yn meddu ar yr un potensial i fod yn niweidiol â'r cyfuniad o 'reoleiddio + creu polisi' addysg sydd gennym ar hyn o bryd.
Mae’r categori o gymwysterau a elwir yn gymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig yn sicr yn un ffordd glir o sicrhau cymwysterau/data cymharol deg o ran cymwysterau yn ein gwlad; er, yn amlwg mai un corff dyfarnu yn unig, ar hyn o bryd, all sicrhau fod pob amcan o ran cymhwyster yn cael ei gyflawni.
Noder mai ennill brwydr wleidyddol yn y wasg yw’r unig ffordd o sicrhau hyder yn y system gymwysterau yng Nghymru, ac mai annheg yw dweud mai ‘prif faen prawf ar gyfer mesur llwyddiant y ddeddfwriaeth hon yw’r hyder sy’n cael ei feithrin ymhlith y cyflogwyr, y darparwyr addysg uwch, y rheini sy’n darparu’r cymwysterau, y dysgwyr a’r cyhoedd yn ehangach, yn y system gymwysterau yng Nghymru.’
|
|
Os na, sut rydych yn meddwl y dylid newid y Bil? |
|
|
|
Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn) |
|
1 - Mae hon yn broblem fawr a brys. |
§ |
2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw. |
§ |
§ 3 - Mae hon yn broblem fach. |
§ |
4 - Nid yw'n broblem. |
§ |
Cwestiwn 3 - A yw adrannau'r Bil, fel y'u drafftiwyd, yn briodol i gyflawni'r amcanion a ddisgrifir uchod? |
|
Ydynt ar y cyfan ond mae angen cryfhau'r geiriad mewn mannau, e.e. pan sonnir am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg (gweler cwestiwn 2).
|
|
Os na, sut rydych yn meddwl y dylid newid y Bil? |
|
Mae angen cryfhau'r geiriad mewn mannau, e.e. pan sonir am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
|
|
Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn) |
|
1 - Mae hon yn broblem fawr a brys. |
§ |
2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw. |
§ |
§ 3 - Mae hon yn broblem fach. |
§ |
4 - Nid yw'n broblem. |
§ |
Cwestiwn 4 - A yw Llywodraeth Cymru wedi nodi'r pedwar prif gyfyngiad yn gywir ar gyfer y trefniant cyfredol ac a fydd y ddau brif nod y mae'r Bil yn eu pennu ar gyfer Cymwysterau Cymru, yn ogystal â'r wyth mater y mae'n rhaid iddo eu hystyried wrth gyflawni ei swyddogaethau, yn mynd i'r afael yn effeithiol â'r cyfyngiadau hyn? |
|
Ydy, ar y cyfan. Nodwn fod y memorandwm Esboniadol yn cydnabod bod y rhestr o wyth brif faes yn rhestr anghyflawn, ond mae'r ddau brif nod a'r rhestr yn mynd i'r afael ar y cyfan â'r pedwar prif gyfyngiad ar gyfer y trefniant cyfredol, er bod lle, efallai i roi mwy o bwyslais ar y dysgwr yn y rhestr. Gellir ychwanegu yn Rhan 2 2(c) "... cymwysterau sydd ar gael ar gyfer y dysgwr, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol.."
|
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut gellir eu datrys? |
|
|
|
Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn) |
|
1 - Mae hon yn broblem fawr a brys. |
§ |
2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw. |
§ |
§ 3 - Mae hon yn broblem fach. |
§ |
4 - Nid yw'n broblem. |
|
Cwestiwn 5 - Beth yw eich barn ar y cynigion ar gyfer penderfynu ar 'gymwysterau blaenoriaethol' ac, o fewn y rhain, 'cymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig'? |
|
Rydym yn derbyn yr angen, ac yn deall y rhesymeg am y categorïau hyn. Rydym yn derbyn fod y cynigion yn rhai addas. Er hyn, credwn yn gyffredinol y byddai’n fanteisiol i gynnig amrediad eang, addas o gymwysterau i ymgeiswyr yng Nghymru lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
|
|
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut gellir eu datrys? |
|
|
|
Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn) |
|
1 - Mae hon yn broblem fawr a brys. |
§ |
2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw. |
§ |
§ 3 - Mae hon yn broblem fach. |
§ |
4 - Nid yw'n broblem. |
§ |